Judges 17

Micha yn gwneud eilun-ddelwau ac yn cyflogi offeiriad

1Roedd dyn o'r enw Micha yn byw ym mryniau Effraim. 2Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di yn melltithio'r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae'r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i'n mynd i'w roi yn ôl i ti.”

A dyma'i fam yn dweud wrtho, “Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy fendithio di, fy mab!”

3Daeth â'r arian yn ôl i'w fam, a dyma'i fam yn dweud, “Dw i am gysegru'r arian yma i'r Arglwydd. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd.” 4Pan roddodd yr arian i'w fam, dyma hi'n cymryd dau gant o ddarnau arian, a'u rhoi nhw i'r gof arian i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd. Yna eu gosod nhw yn nhŷ Micha. 5Roedd gan Micha gysegr i addoli Duw yn ei dŷ. Roedd wedi gwneud effod ac eilun-ddelwau teuluol, ac wedi ordeinio un o'i feibion yn offeiriad.

6Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn. a

7Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda (roedd yn perthyn i lwyth Lefi, ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda). 8Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha.

9Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?”

Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.”

10A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.”

11Dyma fe'n cytuno i aros yno. Roedd fel un o'r teulu. 12Roedd Micha wedi ei ordeinio yn offeiriad, ac roedd yn byw yn ei dŷ. 13Ac meddai Micha wrtho'i hun, “Nawr dw i'n gwybod y bydd Duw yn dda i mi – mae gen i un o lwyth Lefi yn offeiriad!”

Copyright information for CYM